ffôn/ffacs 01766 771 107  :  ebost info@tjbcym.net  :  english


Trwy gydol ein gyrfeydd rydym wedi datblygu, yn annibynnol, ein medrusrwydd personol i ateb gofynion y rhai sydd angen ein gwasanaeth - asiantaethau hyfforddi a menter, awdurdodau lleol, busnesau bach a chanolig o ran maint, cyfundrefnau cymunedol a gwirfoddol.

Mae’r gwaith wedi cynnwys astudiaethau dichonolrwydd, cynlluniau busnes, datrys problemau, cynhyrchu syniadau, datblygu dulliau ar gyfer prosiectau newydd, cynllunio a/neu throsglwyddo rhaglenni hyfforddiant unigryw, dadansoddi anghenion, codi ymwybyddiaeth, datblygu grwpiau.

Yn ddiweddar rydym wedi sylwi ar newid ansoddol mewn pwyslais, gan arweinyddion busnes yn ogystal â’r sector cyhoeddus, o blaid datblygu unigolion a grwpiau o unigolion. Yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru rydym yn profi ac yn adnabod gwerth ymrymuso y datblygiad o unigolion ac ‘adeiladu cynhwysedd’.

Yn gynyddol rydym wedi bod yn cydweithio ar sut i herio sialensiau newydd, drwy gyfuno ein syniadau, adnoddau a rhwydweithiau cefnogi er mwyn cyfarfod ac anghenion ein cwsmeriaid a chynhyrchu ymateb dynamig ein hunain.